Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Ymateb Llais i Adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd Cymru ar Gefnogi Pobl â Chyflyrau Cronig

NEWYDDION 4 Chwefror 2025

Fel y corff annibynnol sy’n adlewyrchu barn ac yn cynrychioli buddiannau pobl sy’n byw yng Nghymru a’u gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, credwn y dylid adeiladu gwasanaethau iechyd a gofal o amgylch anghenion pobl a chymunedau, gan sicrhau bod pawb yn cael y cymorth cywir yn y ffordd iawn ar yr amser iawn. 

Rydym yn croesawu’r ffocws ar ofal person-ganolog yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Gefnogi Pobl â Chyflyrau Cronig  ac yn cefnogi'n gryf yr argymhellion i wneud gwasanaethau'n fwy integredig, cydgysylltiedig ac ymatebol i brofiadau pobl. 

Mae'r adroddiad yn dangos i ormod o bobl, yn enwedig y rhai sydd â mwy nag un salwch hirdymor neu gronig, nad yw gofal iechyd yn gweithio iddyn nhw ac nad yw gwasanaethau bob amser yn gweithio gyda'i gilydd. Mae hyn yn gwneud cael gofal yn ddryslyd. 

Trwy ein gwaith ymgysylltu ac eiriolaeth cwynion, rydym yn clywed dro ar ôl tro am:

  • gyfathrebu gwael rhwng meddygon teulu ac ysbytai, oedi mewn triniaeth, ac ychydig neu ddim cymorth iechyd meddwl pan fydd pobl yn cael diagnosis am y tro cyntaf.
  • pobl yn ei chael hi’n anodd gweld meddyg teulu, arosiadau hir am apwyntiadau arbenigol, ac ansicrwydd ynghylch yr hyn sy'n digwydd nesaf.
  • pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gadael yn y tywyllwch am eu hopsiynau, gan gynnwys ble i droi am gymorth iechyd meddwl.

Rydym yn cefnogi’n gryf yr alwad am atal gwell ac ymyrraeth gynharach. Nid oes digon o adnoddau wedi'u canolbwyntio ar gadw pobl yn iach, ac mae'r rhai mewn ardaloedd tlotach neu o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn aml yn wynebu rhwystrau mwy i ofal. Mae angen i wasanaethau fod yn fwy rhagweithiol, gan gynnig cymorth yn gynt, cefnogi pobl i reoli eu hiechyd eu hunain, a gwneud gwell defnydd o wasanaethau cymunedol lleol.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at rôl bwysig iawn gofalwyr di-dâl, sy’n darparu cymorth hanfodol i anwyliaid. Drwy ein gwaith gyda sefydliadau fel Gofalwyr Cymru, Voices Adfocad, a Credu, rydym yn aml yn clywed sut maent yn teimlo’n anweledig yn y system, yn cael trafferth cael mynediad at ofal seibiant, cymorth ariannol, neu hyd yn oed wybodaeth sylfaenol. Rhaid cydnabod gofalwyr fel partneriaid allweddol mewn gofal a chael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae llawer o bobl â chyflyrau cronig yn gweld llawer o wahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ond nid yw gwasanaethau bob amser yn cysylltu, gan arwain at oedi, dryswch, ac mewn rhai achosion, gwaethygu eu hiechyd. 

Rydym yn cytuno â’r alwad am well mynediad at gymorth iechyd meddwl adeg diagnosis a gwell hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i adnabod ac ymateb i bryderon iechyd meddwl, gan fod pobl hefyd yn dweud wrthym yn rheolaidd sut y gall eu cyflyrau cronig effeithio ar eu hiechyd meddwl.

Mae'r adroddiad hwn yn ei gwneud yn glir bod angen newidiadau beiddgar, systemig nawr. Bydd Llais yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, a phartneriaid gofal cymdeithasol i alw am leisiau pobl i helpu i lunio’r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt. 

Heb weithredu cyflym a phendant, bydd y pwysau ar GIG Cymru ond yn gwaethygu. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru, Gweithrediaeth y GIG, cyrff y GIG a phartneriaid Gofal Cymdeithasol i gydweithio i sicrhau newid ymarferol gwirioneddol, gan ymateb i argymhellion yr adroddiad, a gwneud yr egwyddorion o fewn Cymru Iachach a darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn realiti, ac nid egwyddor yn unig.

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 4 Chwefror 2025
Diweddarwyd diwethaf 4 Chwefror 2025