Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Ein safbwynt ar fynediad at ddeintyddiaeth yng Nghymru

Tachwedd 2024

Buom yn siarad â llawer o wahanol bobl ledled Cymru, a dywedodd nifer wrthym eu bod yn cael trafferth gweld deintydd, sy'n gwneud iddynt deimlo'n afiach ac yn anhapus.

Mae rhai grwpiau, fel plant, pobl hŷn, pobl ag anableddau, a’r rhai nad oes ganddynt lawer o arian, yn ei chael hi'n anoddach fyth i gael y gofal sydd ei angen arnynt.

Yma rydym yn nodi'r hyn rydyn ni wedi'i glywed, yr hyn rydyn ni'n meddwl y dylai newid a'r hyn rydyn ni'n mynd i'w wneud i geisio gwella pethau i bawb.
 

Beth wnaethon ni?

Rhwng mis Ebrill a mis Medi 2024, clywsom gan dros 12,000 o bobl. Bron bob mis, un o'r problemau mwyaf y clywsom amdano oedd pa mor anodd yw cael apwyntiad gyda deintydd GIG.

Dywedodd adroddiad diweddar gan Senedd Cymru bod cael gofal deintyddol yng Nghymru yn broblem ddifrifol, ond eu bod yn ansicr pa mor wael yw'r sefyllfa.

I ddysgu mwy am brofiadau pobl, gofynnon ni ACCESS, ymgynghoriaeth ymchwil annibynnol, ymchwilio i brofiadau pobl o ofal deintyddol yng Nghymru.  

Gwnaethom ddefnyddio'r hyn a ddysgom o'r ymchwil hon ynghyd â'r hyn a glywn trwy ein gwrando agored, gweithgareddau ymgysylltu rhanbarthol ac ymgysylltu trwy ddigwyddiadau cenedlaethol dros yr Haf gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, y Sioe Frenhinol a Balchder i gynhyrchu'r datganiad hwn. 

Yr hyn a glywsom

Anhawster cael gofal deintyddol

Dywedodd llawer o bobl wrthym ei bod yn anodd iawn cael apwyntiad gyda deintydd. Nid oedd gan dros 33% o’r bobl y siaradom â nhw ddeintydd neu roeddent yn sownd ar restr aros. Dywedodd hyd yn oed y bobl oedd wedi cofrestru gyda deintydd eu bod yn cael trafferth trefnu apwyntiad.  Roedd yn rhaid i rai trwsio eu dannedd eu hunain oherwydd na allent gael gofal priodol.

Mae adroddiad Llywodraeth Cymru o fis Hydref 2024 yn dangos bod mwy o bobl yn cael eu trin nag o'r blaen, ond mae'r niferoedd yn dal yn is na chyn y pandemig.

"Rwyf bob amser wedi bod yn falch o fy nannedd ond bellach rwy'n defnyddio deunydd llenwi dros dro o’r siop. Mae'n drist iawn, iawn. Ac mae wedi effeithio ar fy hyder i siarad â phobl”      

"Rydw i mewn poen ofnadwy ac yn dal i gael haint ar ôl haint gan fod fy nannedd yn dadfeilio, ond does neb yn fodlon fy helpu oherwydd faint o waith sydd angen ei wneud. Felly bob dydd dwi'n aros adre mewn poen a chywilydd."     

Newid i ymarfer preifat

Mae llawer o ddeintyddion y GIG yn newid i breifat, sy'n golygu bod y rhai sy’n gallu, yn talu llawer mwy o arian am ofal. Dywedodd rhai pobl nad oes deintyddion GIG yn eu hardal, felly mae'n rhaid iddyn nhw deithio'n bell i ffwrdd i gael help. Gall hyn gymryd trwy'r dydd, ac ni all rhai pobl deithio o gwbl, felly nid ydynt yn cael unrhyw ofal.

Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod llai o ddeintyddion y GIG fesul person yn 2023-2024 nag mewn blynyddoedd blaenorol.

"Mae'n anodd iawn cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG. Mae'r deintyddion yn blaenoriaethu cleifion preifat am reswm. Rhaid cywiro hyn. Dylai deintyddiaeth fod ar gael i bawb."

“Mae’n llawer rhy ddrud ac mae angen gwella hynny, nid oes gan bobl incwm gwario. Os ydych chi'n dlawd, dydych chi ddim yn sefyll cyfle i ofalu am eich iechyd y geg."

Pwy sy'n cael ei effeithio fwyaf?

Mae plant, pobl hŷn, pobl feichiog, pobl ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol, a theuluoedd sydd â llai o arian yn cael yr amser anoddaf i gael gofal deintyddol. Gallai hyn achosi problemau i'w hiechyd yn y tymor hir, yn enwedig i blant, pobl sy'n byw gydag anableddau a phobl hŷn.

Mae ystadegau'n dangos bod llai o blant sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru wedi derbyn gofal deintyddol na'r rhai mewn ardaloedd llai difreintiedig.

"Mae fy mhlant yn 8, 9 a 10 oed a heb weld deintydd yn eu bywydau. Mae angen i ddeintyddion y GIG fod ar gael i bawb sydd ei angen, yn enwedig plant."

"Os oes gennych chi barlys fel sydd gen i, parlys ochr chwith cyflawn, mae'n eithaf anodd glanhau eich dannedd pan na allwch chi fynd i mewn yno a defnyddio un llaw i'w cael allan o'r ffordd. Mae'n rhaid i chi gael dwy law i fynd i mewn yno gyda brwsh. Mae fy neintydd yn fy nghynghori y gallwch ddefnyddio techneg na allaf ei wneud gydag un llaw, ond nid oes hylenydd i roi gofal ychwanegol i mi fel yr oedd yn arfer bod."  

Mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod canran uwch o bobl wen, yn oedolion ac yn blant, wedi cael triniaeth o'i gymharu â grwpiau ethnig eraill, er nad oedd llawer o gleifion yn rhannu manylion eu hethnigrwydd gyda nhw.

Mae pobl ag anableddau dysgu, a'r bobl sy'n eu cefnogi, wedi dweud wrthym eu bod yn wynebu materion ychwanegol yn cael cymorth gan wasanaethau deintyddol. Nid yw pob deintydd yn hygyrch neu'n gwneud addasiadau ar eu cyfer, a gall hyn wneud iddynt deimlo'n bryderus. Efallai y bydd rhai angen triniaeth gan wasanaeth deintyddol arbenigol, ond gall fod yn anodd dod o hyd i'r gwasanaethau hyn neu maent yn bell i ffwrdd o'u cartrefi.

Cost ac ansawdd gofal

Gall mynd at y deintydd fod yn ddrud, yn enwedig os yw'ch opsiynau wedi'u cyfyngu i dalu am ofal preifat. Hyd yn oed i bobl sy'n mynd at ddeintyddion y GIG, weithiau mae'n anodd cael y gofal sydd ei angen arnynt. 

Mae rhai pobl yn teimlo nad yw'r gofal y mae cleifion y GIG yn ei gael cystal â'r hyn y mae cleifion preifat yn ei gael, gan ddweud bod ganddyn nhw apwyntiadau byrrach, brysiog a deunyddiau o ansawdd is yn cael eu defnyddio i drwsio eu dannedd. 

Mae nifer o bobl yn gorfod aros yn rhy hir i weld deintydd, ac nid ydynt yn cael digon o ofal i atal problemau rhag digwydd yn y lle cyntaf.

"Darpariaeth wael iawn yn y rhan yma o Gymru. Amseroedd aros hir am apwyntiadau, yna apwyntiadau wedi'u canslo. Mae tynnu deintyddiaeth y GIG yn ôl a chost uchel iawn deintyddiaeth breifat yn golygu na allaf fforddio triniaeth ddeintyddol mwyach. Does gen i ddim dannedd cefn ar ôl." 

"Mae gofal deintyddol y GIG yn ofnadwy. Os gallwch chi gael apwyntiad, ychydig iawn o amser maen nhw'n ei roi i chi pan fyddwch chi yno ac ni allant drafferthu esbonio pethau'n fanwl. Gallan nhw ddim aros i'ch cael chi allan o'r gadair pan fyddwch chi wedi gallu cael apwyntiad." 

Ein galwadau am newid

Mae angen gweithredu ar frys.  

Rydym yn gwybod bod llawer o waith yn digwydd gyda Llywodraeth Cymru a'r GIG yng Nghymru i wella mynediad at ddeintyddiaeth.  Bydd pethau fel cyflwyno rhestr aros ddeintyddol ganolog yn helpu pawb i gael gwell dealltwriaeth o'r galw am ofal deintyddol yng Nghymru, yn ogystal â helpu i baru'r rhai sy'n aros am driniaeth â gofal deintyddol y GIG.  

Mae'r cynnydd yn dal yn rhy araf.  Mae pobl wedi bod yn aros am amser hir i bethau wella - fel eu bod yn gallu cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw heb orfod aros yn rhy hir na theithio'n rhy bell i'w gael.  

Rydym yn galw am amrywiaeth o weithgareddau: 

  • Unwaith y bydd y rhestr aros ddeintyddol ganolog newydd yn barod ym mis Tachwedd 2024, mae angen i Lywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd sicrhau eu bod yn dweud wrth bobl ar unwaith sut y gallant gofrestru i gael gofal deintyddol yn eu hardal.  Mae angen i bobl allu gwneud hyn yn hawdd hyd yn oed os nad oes ganddynt fynediad i wneud hynny ar-lein.
  • Mae angen i Lywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd wneud mwy i helpu pobl i ddeall sut mae gwasanaethau deintyddol yn datblygu a beth fydd hyn yn ei olygu i'w gofal. Yn y cyfamser, dylent roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am newidiadau cyfredol i wasanaethau i wella mynediad at ddeintyddion nawr, gan ddangos lle mae pethau'n gwella a lle mae angen rhagor o waith o hyd. 
  • Mae angen i Lywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd wneud ymchwil wedi'i thargedu'n well i ddeall a gweithredu i gael gwared ar rwystrau lle mae rhai pobl, fel y rhai ag anableddau, pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl hŷn, a phobl sydd â llai o arian, yn ei chael hi'n anoddach cael gofal deintyddol. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod gwasanaethau deintyddol yn cael eu datblygu mewn ffordd sy'n deg i bawb. Mae angen i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, datblygu mwy o staff deintyddol yma yng Nghymru. Mae angen mwy o hyfforddiant er mwyn i staff allu cefnogi anghenion penodol plant neu oedolion ag anghenion ychwanegol. Bydd hyn yn eu helpu i gael y gofal iawn, a theimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel bob tro y byddant yn mynd.
  • Dylai Llywodraeth Cymru a GIG Cymru ddarparu'r un cyngor a gwybodaeth glir i gleifion ar sut i ofalu am eu dannedd. 
     

Camau gweithredu y bydd Llais yn cymryd:

  • Bydd mynediad at ofal sylfaenol yn parhau i fod yn flaenoriaeth Cymru gyfan i Llais. Byddwn yn parhau i siarad â chymunedau ac yn defnyddio'r hyn a ddysgwn i gyflwyno sylwadau i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a darparwyr gwasanaethau.
  • Byddwn hefyd yn sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed mewn grwpiau fel y Grŵp Goruchwylio Strategol Deintyddol a grŵp porth mynediad deintyddol Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
  • Byddwn yn siarad â deintyddion o'r GIG a phractisau preifat i ddeall pam mae llawer yn symud i ofal preifat a sut mae newidiadau diweddar i gontractau deintyddol yn effeithio arnynt.
  • Byddwn yn gwneud ychydig mwy o waith gyda phlant a phobl ifanc ynghylch cael gofal deintyddol, trwy ofyn iddynt hwy a'r rhai sy'n gofalu amdanynt beth yw eu barn. Bydd hyn yn helpu i ddod o hyd i ffyrdd o wella gofal deintyddol i blant ledled Cymru.
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ledled y DU i ddysgu o'r hyn sy'n gweithio a beth sydd ddim, a byddwn yn dod â sefydliadau allweddol a chynrychiolwyr y llywodraeth ynghyd i drafod y camau y mae angen iddynt eu cymryd i wella gofal deintyddol.