Yr Athro Medwin Hughes
Ar hyn o bryd fi yw’r Is-ganghellor sydd wedi gwasanaethu hiraf yng Nghymru a dros yr ugain mlynedd diwethaf rwyf wedi chwarae rhan arwyddocaol yn y gwaith o ad-drefnu system Addysg Uwch Cymru.
Astudiais ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg Iesu, Prifysgol Rhydychen.
Rwy’n siaradwr dwyieithog rhugl a chyn hynny bûm yn Is-Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac ar nifer o bwyllgorau cynghori Llywodraeth Cymru a Chyngor Ewrop ar bolisi addysgol a diwylliannol.
Rwyf wedi hyrwyddo llawer o fentrau rhyngwladol sydd wedi canolbwyntio ar faterion rhyngddiwylliannol, ac rwy’n eiriolwr cryf dros gynhwysiant a thegwch diwylliannol drwy addysg a’r celfyddydau.
Dros y blynyddoedd rwyf wedi chwarae rhan arwyddocaol mewn nifer o elusennau yng Nghymru ac mae gennyf werthfawrogiad cryf o reoli newid a llywodraethu effeithiol. Ar hyn o bryd rwy’n Gadeirydd un o elusennau mwyaf Cymru – Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys.
Rwy'n Gymrawd Uwchrifol Cymreig o Goleg Iesu, Rhydychen ac yn Gymrawd Anrhydeddus o Goleg Harris Manceinion, Prifysgol Rhydychen. Rwyf hefyd yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac yn Ymddiriedolwr Opera Cenedlaethol Cymru.
Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Gadeirydd cyntaf Llais, sefydliad Cymru gyfan sydd wedi ymrwymo i wneud newidiadau cadarnhaol gwirioneddol i bobl Cymru.