Beth rydym ni’n ei wneud
Rydym yma i sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn defnyddio'ch safbwyntiau a'ch profiadau i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell. A phan aiff pethau o chwith gall ein heiriolwyr cwynion annibynnol a hyfforddedig eich cefnogi i wneud cwynion.
Rhaid i leisiau cryf pobl Cymru fod wrth galon system iechyd a gofal cymdeithasol effeithiol, wedi ei uno ar gyfer Cymru.
Tair ffordd y gallwch chi wneud gwahaniaeth
