Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
CIC Hywel Dda - Adroddiad Ydy'ch plentyn wedi bod i'r ysbyty - Gorffennaf 2022
Mae’r CIC wedi bod yn ymwneud â gwasanaethau plant yn rheolaidd yn blynyddoedd diweddar. Rydym wedi holi pobl am eu profiadau ers i’r Bwrdd Iechyd wneud newidiadau yn 2014.
CIC Cwm Taf Morgannwg - Adroddiad Profiad Cleifion Mewnol Ward C3, Ysbyty Cwm Rhondda
Cytunodd BIP Cwm Taf Morgannwg a’r CIC y byddai aelodau’r CIC yn cyfarfod â chleifion mewnol (a pherthnasau) ar Ward C3 yn Ysbyty Cwm Rhondda, yn rhithiol (drwy iPad, gan ddefnyddio Microsoft Teams), gyda chymorth staff y ward.
CIC Gogledd Cymru - Adroddiad Therapi Iaith a Lleferydd - Mai 2022
Mae’r adroddiad hon ynglŷn â’r pethau ddywedodd pobl wrthyn ni am wasanaethau Therapi Iaith a Lleferydd yng Ngogledd Cymru.