Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llais 2022-23
Mae’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon wedi’u paratoi yn unol â Chyfarwyddyd Cyfrifon Llywodraeth Cymru a Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FreM) 2022-23. Roedd y Cyfarwyddyd Cyfrifon ar gyfer 2022/23 yn cynnwys llai o ofynion adrodd a datgelu sy'n adlewyrchu nad oedd Llais yn weithredol yn 2022/23.
Ein Cynllun a’n Blaenoriaethau Hydref 2023 - Mawrth 2024
Dechreuon ni ein gwaith ar 1 Ebrill 2023. Fe wnaethom ddisodli’r 7 Cyngor Iechyd Cymuned yng Nghymru a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru, a gwnaethom nodi’r pethau yr oedd y Cynghorau Iechyd Cymuned yn gweithio arnynt.
Rydym wedi bod yn parhau i gefnogi pobl a chymunedau drwy ein ymgysylltu,
ymwneud â newidiadau i wasanaethau a’n gwasanaeth eiriolaeth cwynion. Ar yr un pryd, rydym wedi bod yn dysgu sut i wneud pethau mewn ffyrdd a fydd yn cefnogi ein dyletswyddau a’n cyfrifoldebau, fel un corff annibynnol.