Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Llais Powys - Adroddiad ar Yr Hyn a Glywsom yn Ardal Y Trallwng a Threfaldwyn
Ym Mhowys, mae 13 o ardaloedd sydd wedi'u canoli o amgylch y trefi mwyaf a'r ardaloedd cyfagos. Defnyddir yr ardaloedd hyn gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, yr Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol.
Yn Llais Powys, ar gyfer ein hymgysylltiad lleol, fe benderfynon ni adlewyrchu'r ymagwedd hon a chanolbwyntio ein gweithgaredd ar yr un 13 ardal. Fe wnaethom dreialu cyfnod o ymgysylltu yn ardal Y Trallwng a Threfaldwyn yn ystod mis Mehefin 2023.
Buom yn chwilio am ffyrdd o ymgysylltu â phobl o bob oed a gyda diddordebau gwahanol ac i wrando ar eu barn am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r hyn a glywsom gan bobl yn ystod y gweithgaredd ymgysylltu hwn.
Llais Rhanbarth Gwent - Arolwg Gofalwyr - Adroddiad Cryno - Medi 2023
Fel rhan o'n cynllun blynyddol, roedd Llais Rhanbarth Gwent am glywed gan Ofalwyr yn ardal Gwent a'u profiad o gael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'u defnyddio i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Er mwyn gwneud hyn, gwnaethom greu arolwg ar-lein i bobl roi eu hadborth. Gwnaethom anfon ein harolwg at randdeiliaid allanol a chwmnïau gofalu, gwnaethom ei gyhoeddi ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a rhannu copïau ohono mewn digwyddiadau ymgysylltu.
Aeth yr arolwg yn fyw ym mis Mehefin 2023 a daeth i ben ym mis Awst. Cawsom gyfanswm o 29 o ymatebion.