Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Adroddiadau

Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.

Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG  a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.

Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.

Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.

Cynhyrchwyd rhai o'r adroddiadau hyn gan Gynghorau Iechyd Cymuned

O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.

Hidlo yn ôl

Loading icon

Dewiswch ddyddiad dechrau a gorffen

136 canlyniad

Ymgysylltiad Gorllewin Cymru - Ymwybyddiaeth Dementia, Theatr Ffwrnes, Llanelli

Gwahoddodd Dementia Friendly Swansea Llais i fynychu eu sesiynau hyfforddiant ymwybyddiaeth yn Theatr Ffwrnes er mwyn codi proffil Llais ac i wrando ar brofiadau gofalwyr o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.


Cynhaliwyd dwy sesiwn – un yn y bore ac un yn y prynhawn gyda 19 o bobl yn mynychu yn y bore a 18 yn y prynhawn. Roedd y rhan fwyaf o’r mynychwyr yn staff Hywel Dda neu’n cyngor gydag ychydig o ofalwyr. Roedd y staff hyn yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, ffisiotherapyddion, nyrsys a chysylltwyr cymunedol. Rhoddais gyflwyniad byr i'r ddau grŵp a chefais gyfle i hyrwyddo Llais i staff sy'n gweld cleientiaid/cleifion yn ddyddiol.

Ymgysylltu Llais Gorllewin Cymru - Canolfan Antioch, Llanelli

O 20 Mai 2024, bydd y rhan fwyaf o wasanaethau prawf gwaed ar gyfer pobl sy'n byw yn ardal Llanelli yn cael eu darparu o'r Ganolfan Brechu Dorfol yn Nafen, Llanelli.


Symud gwasanaethau prawf gwaed o Ganolfan Antioch i Ddafen yw ymateb y Bwrdd Iechyd i adborth gan gleifion sydd wedi codi pryderon am y gwasanaeth yn Llanelli. Mae cleifion wedi rhannu adborth o'r blaen ar y diffyg lleoedd parcio, lle i gleifion sy'n aros am eu hapwyntiad, a hyd y rhestr aros.


Symudiad dros dro yw symud i’r Ganolfan Brechu Dorfol yn Nafen, a bydd yr uchelgais hirdymor yn cynnwys symud y gwasanaeth i fod yn rhan o ddatblygiad Pentre Awel yn 2025.


Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi trefnu 2 sesiwn galw heibio ac wedi gofyn i ddefnyddwyr gwasanaeth gwblhau arolwg papur a/neu ar-lein erbyn 26 Mehefin 2024.

Llawlyfr Gwirfoddolwyr

Rydym wrth ein bodd eich bod wedi dewis gwirfoddoli gyda Llais. Rydyn ni’n dibynnu ar bobl fel chi i wneud yn siŵr mae lleisiau pobl yn cael eu clywed yng Nghymru.

Cymerwch amser i ddarllen y llawlyfr a dewch yn ôl ato pan fo angen. Mae’n dweud wrthych pwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud, ac yn nodi’r polisïau a’r prosesau sydd gennym ar waith i’ch cefnogi a’ch diogelu chi ac eraill.

Crynodeb o Bolisi Safonau Ymddygiad Gwirfoddolwyr

Mae polisi safonau ymddygiad Llais1 yn ein galluogi i sicrhau bod ein pobl yn ymarfer y safonau ymddygiad ac ymddygiad uchaf.

Mae’r crynodeb polisi hwn yn nodi ein disgwyliadau ac yn darparu canllawiau ategol fel bod pob gwirfoddolwr yn cael ei gefnogi i fodloni’r safonau ymddygiad a nodir yn y ddogfen hon.

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r trefniadau sydd ar waith i reoli datganiadau o fuddiannau, rhoddion, lletygarwch, honoraria a nawdd. 

Mae’r crynodeb polisi hwn ar gyfer pob gwirfoddolwr.