Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Crynodeb o Bolisi Safonau Ymddygiad Gwirfoddolwyr
Mae polisi safonau ymddygiad Llais1 yn ein galluogi i sicrhau bod ein pobl yn ymarfer y safonau ymddygiad ac ymddygiad uchaf.
Mae’r crynodeb polisi hwn yn nodi ein disgwyliadau ac yn darparu canllawiau ategol fel bod pob gwirfoddolwr yn cael ei gefnogi i fodloni’r safonau ymddygiad a nodir yn y ddogfen hon.
Mae’r ddogfen hon yn nodi’r trefniadau sydd ar waith i reoli datganiadau o fuddiannau, rhoddion, lletygarwch, honoraria a nawdd.
Mae’r crynodeb polisi hwn ar gyfer pob gwirfoddolwr.
Llawlyfr Gwirfoddolwyr
Rydym wrth ein bodd eich bod wedi dewis gwirfoddoli gyda Llais. Rydyn ni’n dibynnu ar bobl fel chi i wneud yn siŵr mae lleisiau pobl yn cael eu clywed yng Nghymru.
Cymerwch amser i ddarllen y llawlyfr a dewch yn ôl ato pan fo angen. Mae’n dweud wrthych pwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud, ac yn nodi’r polisïau a’r prosesau sydd gennym ar waith i’ch cefnogi a’ch diogelu chi ac eraill.