Rheolau Gwirion
Rydym wedi ymuno â Chomisiwn Bevan mewn partneriaeth â’r Sefydliad Gwella Iechyd (IHI) ac rydym am glywed gennych.
Yn seiliedig ar ''Torri'r Rheolau ar gyfer Gwell Gofal,'' a ddatblygwyd gan Gynghrair Arweinyddiaeth y Sefydliad Gwella Iechyd (IHI) yn 2016, rydym yn gwrando arnoch chi ac ar staff iechyd a gofal cymdeithasol am y rheolau sy'n rhwystro o ofal a chymorth gwell.
Os ydych chi erioed wedi teimlo’n rhwystredig gyda rheolau, prosesau a systemau yn y gwaith neu wrth gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnoch chi, mae “Rheolau Gwirion” ar eich cyfer chi. Pe gallech newid neu dorri unrhyw reol i wneud gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn well, beth fyddai hynny?
Gyda’n gilydd, gallwn leihau gwastraff a rhwystrau diangen i helpu i lunio system iechyd a gofal cymdeithasol well i bawb.
Ydych chi eisiau bod yn rhan o “Rheolau Gwirion"? Dysgwch fwy yma.